AS yn cymeradwyo mentor ‘ymroddgar’ elusen arennau

Mae AS wedi cymeradwyo mentor “ymroddgar” sydd yn gwirfoddoli i elusen arennau.

Mae Llyr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, wedi cyfarfod a’r gwirfoddolwr “ysbrydoledig”, Alan Jones, sydd yn gwirfoddoli i Popham Kidney Support.

Siaradodd Mr Gruffydd, o Blaid Cymru gydag Alan, o Wrecsam, yn o gystal a gwirfoddolwyr a mentoriaid eraill yr elusen, pan ymwelwyd a’r Senedd.

Mae Popham Kidney Support yn elusen sydd wedi ei leoli yn Abertawe. Mae eu tîm yn cefnogi plant, pobl ifanc ac oedolion gyda clefyd y arennau trwy Gymru gyfan. Mae nhw hefyd yn cefnogi eu teuluoedd ac yn trefnu i godi arian ar gyfer cefnogi pobl sydd angen cefnogaeth.

Mae tua 10,000 o bobl hefo clefyd arennol yng Nghymru, a llawer mwy mewn peryg o gael y clefyd.

Clefyd arennol ydi lleihad yng ngallu’r arennau i gario allan gweithredu allweddol yn yr hir dymor.

Mae hyn yn cynnal pwysau gwaed, cynnal y lefelau iawn o gemegion yn y corff, sydd mynd ymlaen i helpu’r galon a’r cyhyrau i weithio yn iawn, cynhyrchu mat o fitamin D sydd yn cadw esgyrn yn iach a cynhyrchu sylwedd o’r enw erythropoietin sydd yn helpu ysgogi cynhyrchu o gelloedd gwaed coch.

Mae bob un o fentoriaid Popham Kidney Support’s hefo profiad o glefyd yr arennau, unai fel claf, gofalwr, neu aelod o deulu.

Mae gan yr elusen 24 o fentoriaid, o oedrannau a profiadau amrywiol, trwy’r wlad.

Mae nhw wedi gwneud hyfforddiant arbenigol er mwyn bod yn fentor ac mae nhw’n cael eu cefnogi gan seicolegwyr clinigol yn o gystal a tîm rheoli’r elusen.

Dywedodd Llyr Gruffydd AS: “Roedd o’n bleser pur i gyfarfod Alan a’r tîm o Popham Kidney Support i glywed am y gwaith hanfodol mae nhw yn eu wneud.

“Mae o yn amlwg yn hynod o ymroddgar yn o gystal a brwdfrydig am gefnogi pobl gyda methiant yr arennau a’u teuluoedd. Mae be mae o a’i gyd-wirfoddolwyr yn ei gyflawni yn ysbrydoliaeth.

“Mae mentoriaid yn darparu gwybodaeth a cyngor defnyddiol, yn o gystal a chefnogaeth emosiynol.

“Mae nhw yn gallu defnyddio eu profiadau eu hunain o’r clefyd i helpu eraill.

“Mae prif neges yr elusen o ‘nod wyt ar ben dy hun’ yn un pwerus ac yn ffynhonnell o gysur i bobl sydd hefo’r clefyd a mae’r gwaith mae Alan a’i gyd-wirfoddolwyr yn ei wneud yn tanlinellu hynny.   

Am fwy o wybodaeth am Popham Kidney Support ewch i: https://pophamkidneysupport.org.uk/

Gall unrhyw un sydd eisiau sgwrs gyda mentor neu sydd eisiau cefnogaeth gysylltu ar 0800 038 8989 neu [email protected]  


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2024-03-22 16:48:58 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd