AS yn cymeradwyo hyfforddiant CPR sydd dim ond yn cymryd 15 munud

Mae AS wedi cymeradwyo cwrs hyfforddiant CPR sydd dim ond yn cymryd 15 munud i gyflawni ar ffôn symudol.

Dysgodd Llŷr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, am gwrs REvivR y British Heart Foundation’s (BHF) fel rhan o Heart Month.

Mae CPR yn cael ei berfformio i achub bywydau pan mewn argyfwng mae’r galon yn stopio curo. 

Bob blwyddyn mae 30,000 o bobl yn y DU yn cael  ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty, fel llai na un mewn 10 yn goroesi.

Mae rhoi CPR a defnyddio diffibriliwr yn gallu dyblu siawns person i oriesi.

Mae’r BHF wedi datblygu REvivR, sef cwrs hyfforddiant ar-lein sydd am ddim, ac yn rhyngweithiol

Mewn dim ond 15 munud mae’n dysgu cyfranogwyr sut i achub bywyd. Cwbl mae nhw ei angen ydi clustog a ffôn symudol.

Dywedodd Llŷr Gruffydd AS, o Plaid Cymru: “Yn aml CPR ydi y gwahaniaeth rhwng byw a marw, a dyna pam mae o yn wych bod y British Heart Foundation wedi datblygu y cwrs yma i achub bywydau.

“Roedd o yn bleser i gyfarfod eu tîm yn y Senedd a dysgu am y gwaith pwysig mae nhw wedi bod yn ei wneud.

“Mae’r data yn dangos yn glir bod rhoi CPR a diffibriliwr yn medru dyblu siawns person o oroesi os maent yn cael ataliad y galon.

“Felly y mwy o bobl sydd yn dysgu sut i wneud hyn, y mwy o fywydau mae posib achub yn y dyfodol.

“Mae’r cwrs yma yn rhad ac am ddim, mae o dim ond yn cymryd 15 munud, a felly mae o yn hawdd iawn i bobl gael tro.”

I gymryd y cwrs ymwelwch a: https://revivr.bhf.org.uk/

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Marc Jones
    published this page in Newyddion 2024-03-22 12:59:28 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd